O fis Medi 2022 mae pob plentyn ysgol fabanod/plant cyfnod sylfaen yn gymwys ar gyfer cinio ysgol yn rhad ac am ddim.
Gellir lawrlwytho'r fwydlen yma
Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Y Fenni yn defnyddio System Archebu ParentPay ar gyfer Cinio Ysgol. Mae’r canllawiau ‘Sut i archebu Cinio Ysgol’ ar gael yma.
- Rhaid archebu a thalu am ginio erbyn 8yb ar y diwrnod mae angen y cinio a gallwch hefyd archebu sawl wythnos ymlaen llaw i arbed amser. Gallwch dreulio amser gyda’ch plentyn gan fwynhau edrych trwy'r fwydlen ac archebu'r prydau bwyd gyda'ch gilydd.
- Ni allwn wneud unrhyw newidiadau ar ôl i chi archebu a thalu am ginio ac ni fydd eich plentyn yn gallu cyfnewid rhwng yr opsiwn cinio a/neu daten ar y diwrnod.
- I archebu cinio mae'n rhaid bod arian yn eich cyfrif ParentPay, gan fod rhaid talu am ginio wrth archebu.
- Os bydd eich plentyn yn absennol o'r ysgol, bydd eich archeb yn cael ei chanslo gan swyddfa'r ysgol ac ni chodir tâl arnoch am y pryd bwyd.
- Os ydych chi'n derbyn Prydau Ysgol Am Ddim yna bydd angen i chi archebu cinio i'ch plentyn ymlaen llaw o hyd, ond ni fydd yn ofynnol i chi dalu. Am ragor o fanylion am Brydau Ysgol am Ddim ewch i wefan y Cyngor Sir: www.monmouthshire.gov.uk/cy/free-school-meals/