Scroll To Top

Corff Llywodraethu


Mae ein Corff Llywodraethu yn cynnwys pedwar ar ddeg o bobl, sy'n wirfoddolwyr. Maent yn cynrychioli y gwahanol rannau o'n cymuned: y pennaeth, aelodau staff, rhieni, y gymuned leol a'r Awdurdod Lleol. Mae aelodau staff a rhieni yn cael eu hethol i'r Corff Llywodraethu a gall yr Awdurdod Lleol benodi ei gynrychiolwyr. Gall y Corff Llywodraethu gyfethol aelodau o'r gymuned leol er mwyn ceisio sicrhau bod ganddo ystod dda o brofiad a sgiliau.

Er mwyn cyflawni ei ddyletswyddau, mae'r Corff Llywodraethu yn cyfarfod yn rheolaidd, ac mae ganddo hefyd nifer o is-bwyllgorau a phaneli sy'n cyfarfod i ystyried rhai materion yn fwy manwl. Mae bod yn Llywodraethwr ysgol yn rôl ddiddorol ond heriol. Darperir hyfforddiant gan yr Awdurdod Lleol. Mae swyddi gwag o bryd i'w gilydd.

Sarah Oliver - Pennaeth
Michael Pearson - Cadeirydd y Llywodraethwyr
Dilys Williams
Rhiannon Davies
Heulwen Roberts
Matt Williams
Chris Pritchard
David Hughes-Jones
David Rea
Lowri Jackson
Lucy Cox
Seren Fenoulhet