Scroll To Top

E-ddiogelwch


Mae’n hynod o bwysig cadw’n ddiogel wrth ddefnyddio’r we, felly dyma ein cyngor i blant am sut i ddefnyddio’r we mewn ffordd ddiogel.

1.Byddwch yn ofalus bob amser pan fyddwch yn defnyddio'r rhyngrwyd. Gall eich helpu i gadw mewn cysylltiad â'ch ffrindiau a helpu eich addysg – ond gall hefyd achosi niwed – i chi ac i eraill.

2.Cofiwch fod help ar gael bob amser yn yr ysgol os ydych yn cael unrhyw broblemau ar-lein.

3.Peidiwch â bod ofn siarad â'ch athro neu oedolyn arall yn yr ysgol.

4. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw ffrindiau ar-lein newydd yn llym ar-lein. Os bydd rhywun nad ydych yn ei adnabod yn gofyn am fod yn ffrind ar-lein i chi, rhaid i chi sicrhau bod oedolyn yn gwybod amdano.

5. Gwenwch yn siwr eich bod yn gwybod sut i ddefnyddio'r Botwm CEOP a sut i roi gwybod i'r Ganolfan CEOP os ydych yn pryderu am ymddygiad ar-lein rhywun tuag atoch.

Os ydych chi neu unrhyw un rydych chi'n ei adnabod yn poeni am Gamfanteisio ar Blant, Amddiffyn Ar-lein neu unrhyw beth sy'n gysylltiedig â diogelwch ar y Rhyngrwyd, cliciwch ar y ddolen isod a fydd yn mynd â chi i wefan adrodd CEOP: