Scroll To Top

Ffrindiau Ysgol Y Fenni


Grŵp brwdfrydig o rieni yw Ffrindiau y Fenni, sy'n trefnu digwyddiadau cyffrous i ddisgyblion, staff a theuluoedd yr ysgol yn ystod y flwyddyn. Ein prif nod yw trefnu digwyddiadau sy'n codi arian tuag at yr ysgol, ac yn galluogi disgyblion yr ysgol i gymdeithasu gyda'i gilydd trwy gyfrwng y Gymraeg.  Trwy eich cefnogaeth hael mae’r ffrindiau yn ariannu offer a phrofiadau addysgiadol i'r plant drwy'r flwyddyn e.e. llyfrau ac adnoddau newydd, gwisgoedd ag offer chwaraeon, ymweliadau theatr a llawer mwy!

Er bod Covid a’r cyfnod clo wedi effeithio ar weithgareddau’r Ffrindiau, fel arfer rydym yn trefnu disgos, nosweithiau ffilm, cystadlaethau lliwio, a phinacl bob flwyddyn yw ein Barbeciw a Ffair Haf.

Hoffem yn fawr weld aelodau newydd yn ymuno â ni, mae croeso cynnes i bob un ohonoch.  Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cefnogi ein hymdrechion, yna plîs cysylltwch gyda ni trwy e-bost ffrindiau@ysgolyfenni.co.uk

Edychwn ymlaen at glywed wrthoch!

Cylchlythyr y Ffrindau – Haf 2021