Rydym yn croesawu gwirfoddolwyr yn yr ysgol ac rydym yn gwerthfawrogi eu sgiliau, brwdfrydedd ag ymrwymiad. Mae gwirfoddolwyr yn cefnogi teithiau ysgol ac ymweliadau, cynnig cymorth gyda digwyddiadau penodol, yn gwrando ar blant yn darllen neu’n cynnig cymorth yn yr ardd neu’r ardal allanol.
Bydd gwiriad manylach DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) yn cael ei gynnal ar gyfer yr holl wirfoddolwyr yn yr ysgol, ac rydym yn gofyn i bob gwirfoddolwr am 2 eirda. Disgwylir i bob gwirfoddolwr yn Ysgol Gymraeg y Fenni gwblhau hyfforddiant Diogelu Plant, ac i lenwi ‘Cytundeb Gwirfoddoli’. Mae'r cytundeb hwn yn nodi ein canllawiau yn ymwneud â chyfrinachedd, ymrwymiad, iechyd a diogelwch, diogelu, amddiffyn plant a chyfathrebu.
Cysylltwch â ni trwy ebost am ragor o wybodaeth am gyfleoedd gwirfoddoli, ysgolgymraegyfenni@monmouthshire.gov.uk