Scroll To Top

Gwisg Ysgol


Ein darparwr gwisg ysgol o ddewis yw ReflexEmbroidery, sydd wedi'i leoli yn Nhredegar. Fel rhieni a gofalwyr, gallwch archebu arlein, dros y ffôn neu ymweld â'u siop. Gallwch ddewis talu i’r wisg gael ei bostio yn uniongyrchol i'ch cartref neu byddant yn danfon archebion yn wythnosol i'r ysgol yn amodol ar argaeledd stoc. Gallwch hefyd archebu gwisg ysgol trwy wefan MyClothing. Mae croeso i chi hefyd brynu gwisg ysgol heb Logos ysgol ond disgwylir bod disgyblion yn cadw at liwiau’r ysgol. Mae’n well gennym eu bod yn gwisgo’r eitemau dillad yma ond ein blaenoriaeth yw sicrhau bod y plant yn gyfforddus ac yn gallu symud o gwmpas yn hapus.

Ar ddiwrnodau Ymarfer Corff mae disgwyl i ddisgyblion ddod i’r ysgol mewn cit Ymarfer Corff ysgol a threinyrs. Lle bynnag y bo hynny’n bosibl, dylai disgyblion wisgo lliwiau’r llys. Mae crysau T Ymarfer Corff yr ysgol ar gael gan Reflex Embroidery gydag enw’r llys ar y cefn.

Reflex Embroidery, Crown Business Park, Tredegar, NP22 4EF, 01495 725777