Mae amgylchedd meddylfryd twf yn amgylchedd sy'n annog ac yn arfogi plant i ddod yn ddysgwyr gydol oes. Mae’n addysgu plant i gymryd cyfrifoldeb personol am eu llwyddiannau ac i ddeall yr effaith y mae eu hymdrechion, eu gwydnwch a’u hymddygiad dysgu eu hunain yn ei chael ar hyn. Mae’n rhan sylfaenol o helpu plant i ddod yn ddysgwyr am oes ac i gyflawni eu potensial. Ceir ymchwil hefyd sy'n awgrymu bod plant yn hapusach oherwydd bod amgylchedd meddylfryd twf yn pwysleisio pwysigrwydd ymwybyddiaeth ofalgar, hunan-werthfawrogiad a hunan-barch. Yma, yn Ysgol Y Fenni rydym yn annog plant i feithrin meddylfryd medrus nid meddylfryd pendant.