Scroll To Top

Rhinweddau


Mae datblygiad cymeriad yn broses sy'n gofyn am ymdrechion yr unigolyn, cymdeithas a'r ysgol. Yn Y Fenni rydym yn teimlo’n angerddol iawn dros fabwysiadu agwedd gyfannol at addysg, gan sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar bob agwedd ar dwf plentyn ac nid yn unig ar allu academaidd. Heb lesiant positif mae dysgu yn amhosibl. Felly, yn dilyn trafodaethau helaeth gyda disgyblion a staff fe benderfynon ni ar 5 rhinwedd sydd, yn ein barn ni, yn hanfodol ar gyfer datblygu plant cyflawn.

Y 5 Rhinwedd:

  • Annibyniaeth
  • Gwytnwch
  • Gallu i ddarllen
  • Hunan - Werth
  • Barod i

Wedyn cytunwyd ar feini prawf o sut i ddatblygu'r rhinweddau yma. Rhannwyd gyda holl rhanddeiliad yr ysgol. Mae gan bob rhinwedd gwenyn penodol ac enw penodol. (Hari Hunan - Werth, Beti Barod i, Doti Darllen, Alun Annibynnol, Gari Gwytnwch). Mae gan bob gwenyn hefyd stori sy'n adrodd hanes sut y daethant yn wydn, yn ddarllenwyr hyderus, ddatblygu hunan-werth, annibyniaeth a pharodrwydd i ddysgu.