Ysgol Gynradd Gymraeg uchelgeisiol a theg i blant rhwng 3 ac 11 oed yw Ysgol Gymraeg Y Fenni yn ardal Y Maerdy. Yn Medi 2017 sefydlwyd Uned Feithrin i blant 3/4 oed yn rhan o'r ysgol. Mae yna Cylch Meithrin ac felly gofal cofleidiol ar safle’r ysgol.
Mae dalgylch yr ysgol yn eang ac yn amrywiol ac yn cynnwys ardaloedd drefol a chefn gwald ar draws Sir Fynwy. Mae dros 280 o ddisgyblion yn yr ysgol, gyda niferoedd yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn. Ers mis Medi 2018 mae’r ysgol wedi dechrau ehangu i fod yn ysgol dau ffrwd yn y blynyddoedd cynnar.
Daw’r disgyblion o ardaloedd cymysg, rhai ardaloedd o fantais economaidd, eraill yn ardaloedd dan anfantais a’r gweddill yn ardaloedd heb fantais nac anfantais arbennig. Mae tua 4% o ddisgyblion yn dod o gartrefi Cymraeg lle mae o leiaf un o’r rhieni yn siarad Cymraeg, tua 3% o gartrefi lle mae'r ddau riant yn siarad Cymraeg a daw tua 97% o’r disgyblion yn dod o gartrefi di-Gymraeg. Hefyd mae 3.2% yn dod o gefndir lleiafrifol ethnig. Ar hyn o bryd mae tua 9% o’r disgyblion yn cael prydau bwyd am ddim; mae’r ffigwr o dan y cyfartaleddau cenedlaethol a lleol. Mae 10.8% ar y gofrestr anghenion dysgu ychwanegol (ADY), ac mae’r ffigwr hwn o dan y cyfartaleddau cenedlaethol a lleol.
- Gweledigaeth a Gwerthodd
- Staff yr Ysgol
- Dosbarthiadau
- Cwricilwm
- Taith Rithiol
- Derbyniadau
- Polisiau
- Cynllyn Datblygu
- Estyn
- Y Dyfodol
- Grant Datblygu Disgyblion