Yn sail i'r cwricwlwm newydd mae'r pedwar diben a fydd wrth wraidd dysgu. Y pedwar egwyddor fydd sail y profiadau dysgu cyfoethog a dilys yr ydym yn eu cynllunio a'u darparu.
Dyma Gwenno Gofalu.
Mae Gwenno yn gwrando ar bobl arall ond yn hyderus i wneud penderfyniad ei hun. Mae hi'n dangos caredigrwydd a thegwch i bawb.
Mae hi'n hoffi dysgu am ddigwyddiadau yn y gorffennol ond hefyd yn hoffi siarad am beth sy'n digwydd o gwmpas y Byd nawr.
Mae Gwenno yn hoffi edrych ar ôl y Byd, mae hi'n hoffi plannu planhigion ar gyfer y gwenyn. Ar ôl gadael yr ystafell mae hi'n troi'r golau i ffwrdd pob tro! Wrth frwsio dannedd mae Gwenno wastad yn troi’r tap i ffwrdd. Mae Gwenno yn mwynhau ailddefnyddio sbwriel i wneud gwrthrychau newydd, defnyddiol.
Mae Gwenno'n hoffi dilyn y rheolau. Mae hi'n gwybod beth sy'n iawn a beth sydd ddim yn iawn.
Mae hi'n gwybod y rheolau a sut i drin pobl yn deg a gyda pharch. Mae hi'n hoffi dysgu am wledydd a chrefyddau gwahanol.
Mae Gwenno yn deall bod ei dewisiadau hi yn cael effaith ar eraill. Mae hi'n meddwl cyn gwneud
Dyma Ianto Iachus.
Mae Ianto yn hyderus i berfformio. Mae e'n hoffi sefyll o flaen pawb yn siarad am bethau pwysig.
Mae Ianto yn ffrindiau agos iawn gyda Hari Hunan Werth, Gari Gwytnwch ac Alun Annibynnol.
Ffrind gorau Ianto yw Hari Hunan Werth. Mae Hari ac Ianto yn dwlu mynd allan ar y penwythnos yn dangos caredigrwydd i bawb. Mae Ianto a Gari yn mwynhau wynebu heriau gyda'i gilydd ac yn trio a thrio heb grio! Mae Ianto ac Alun yn mwynhau gwneud pethau ar ben ei hun.
Mae Ianto yn gwybod sut i gadw'n ddiogel ac yn iach. Mae'n datblygu perthnasoedd sy'n seiliedig ar ymddiriedaeth a pharch.
Un o hoff bethau Ianto yw cadw'n iach. Mae e'n bwyta llysiau a ffrwythau yn ystod pob pryd o fwyd. Un o hoff lysiau Ianto yw moron. Mae Ianto yn yfed ddigon o ddŵr pob dydd ac yn aml yn rhedeg gyda Mr Jones!
Dyma Marti Mentrus.
Mae Marti yn greadigol iawn. Mae ganddo baent ar ei grys a brwsh yn ei wallt pob dydd.
Mae Marti yn manteisio ar bob cyfle.
Mae Marti yn barod i ddysgu. Ffrind gorau Marti yw Beti Barod. Mae Marti a Beti yn mwynhau cynllunio a sicrhau bod popeth yn ei le. Maen nhw’n barod am bopeth! Maen nhw’n meddwl yn ofalus am bethau cyn gwneud fel bod nhw’n gallu wynebu rhywbeth brawychus heb ofn.
Does dim ots gyda Marti os mae e’n gwneud camgymeriad. Mae e’n hapus i drio popeth achos bod e’n gwybod does dim ots oes nad yw rhywbeth yn gweithio. Mae e’n hoffi creu rhywbeth sefyll nôl, meddwl am dipyn bach ac wedyn newid rhywbeth i wneud e’n well.
Mae e’n siarad yn agored am sut mae e’n teimlo. Mae e’n hoffi gweithio mewn grŵp i gwblhau pethau.
Mae Marti yn esbonio ei syniadau i’w ffrindiau ac yn mwynhau gofyn cwestiynau i ddysgu pethau newydd.
Dyma Dani datrys problemau.
Mae Dani yn gwneud ei gorau glas.
Mae hi’n hoffi meddwl am ffyrdd gwahanol o herio ei hun. Hoff bethau Dani yw’r her sêr ar heriau hwyl.
Pam mae Dani yn hŷn mae hi eisiau bod yn dditectif Mathemategol gan fod hi’n dwlu cwblhau posau a heriau anodd ac yn wych yn gweithio gyda rhifau.
Mae Dani yn siarad Cymraeg a Saesneg yn hyderus iawn, ond ei hoff iaith yn amlwg yw Cymraeg!
Mae hi’n hoffi rhoi ei syniadau lawr ar bapur ac wedi gweithio’n galed i sicrhau bod ei llawysgrifen yn daclus!
Mae hi’n dwlu ar gasglu gwybodaeth o lefydd gwahanol ac edrych ar y canlyniadau. Mae Marti yn hoffi ffeindio mas gwybodaeth newydd a gwerthuso'r wybodaeth yma.
Mae datblygiad technoleg yn bwysig iawn i Dani ac mae hi’n aml yn defnyddio’r dechnoleg yma i gofnodi ei syniadau.