Wrth wraidd ethos a gwerthoedd Ysgol y Fenni mae parch at yr unigolyn, gyda phob diwrnod wedi'i lunio o amgylch eu hanghenion unigryw. Rydym yn credu mewn paratoi dysgwyr trwy ddatblygu eu sgiliau a'u gwerthoedd ar gyfer bywyd y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth.
Diben y Grant Datblygu Disgyblion yw gwella canlyniadau i ddysgwyr sy'n gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim a Phlant sy'n Derbyn Gofal.
Canlyniad bwriadedig y grant yw helpu i oresgyn y rhwystrau ychwanegol sy'n atal dysgwyr o gefndiroedd difreintiedig rhag cyflawni eu llawn botensial.
Dyrannwyd £35,650 i Ysgol Gymraeg y Fenni at y pwrpas hwn. Rydym wedi penderfynu defnyddio ein grant i: